Mae’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn agor ar 3 Awst 2020.
Cewch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan mewn sefydliad sy’n cymryd rhan:
- i gael gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i’w fwyta neu yfed y tu mewn (hyd at uchafswm gostyngiad o £10 fesul person sy’n bwyta)
- bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst
- gymaint o weithiau ag y dymunwch
Does dim angen taleb arnoch er mwyn defnyddio’r cynllun hwn, a gallwch ei ddefnyddio ar yr un pryd â chynigion a gostyngiadau eraill. Does dim rhaid gwario swm penodol.
Ni allwch hawlio gostyngiad ar ddiodydd alcohol na thaliadau gwasanaeth.
Bydd y gostyngiad ar gael i chi yn awtomatig mewn sefydliadau sy’n cymryd rhan. Bydd sefydliadau wedyn yn hawlio ad-daliad gan y llywodraeth ar gyfer y gostyngiad y maent wedi’i roi i chi.
Gall sefydliadau sy’n cymryd rhan gynnwys:
- bwytai, caffis, bariau neu dafarndai
- ffreuturau yn y gweithle a’r ysgol
- neuaddau bwyd
Gall pob person sy’n bwyta defnyddio’r gostyngiad – does dim ots faint o bobl sydd yn y grŵp.