Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Mae’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn agor ar 3 Awst 2020.

Cewch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan mewn sefydliad sy’n cymryd rhan:

  • i gael gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i’w fwyta neu yfed y tu mewn (hyd at uchafswm gostyngiad o £10 fesul person sy’n bwyta)
  • bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst
  • gymaint o weithiau ag y dymunwch

Does dim angen taleb arnoch er mwyn defnyddio’r cynllun hwn, a gallwch ei ddefnyddio ar yr un pryd â chynigion a gostyngiadau eraill. Does dim rhaid gwario swm penodol.

Ni allwch hawlio gostyngiad ar ddiodydd alcohol na thaliadau gwasanaeth.

Bydd y gostyngiad ar gael i chi yn awtomatig mewn sefydliadau sy’n cymryd rhan. Bydd sefydliadau wedyn yn hawlio ad-daliad gan y llywodraeth ar gyfer y gostyngiad y maent wedi’i roi i chi.

Gall sefydliadau sy’n cymryd rhan gynnwys:

  • bwytai, caffis, bariau neu dafarndai
  • ffreuturau yn y gweithle a’r ysgol
  • neuaddau bwyd

Gall pob person sy’n bwyta defnyddio’r gostyngiad – does dim ots faint o bobl sydd yn y grŵp.