CEFNDIR CABAN CWMNI BUDDIANY CYMUNEDOL
Mae Caban CIC yn ganolbwynt cymunedol annwyl i bobl leol ac ymwelwyr, gan gynnig lle i gwrdd, creu, gweithio ac ymlacio.
Ein Cenhadaeth
Darparu canolfan ddynamig yng nghalon y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid i wella ansawdd bywyd i bawb.
Ein Gweledigaeth
Rhedeg caffi-bwyty cynaliadwy a darparu cartref i fentrau lleol ffynnu. Yr hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i fusnes traddodiadol yw’r hyn a wnawn gyda’n hincwm a’n hasedau – rydym yn buddsoddi yn ein cenhadaeth gymdeithasol ac amgylcheddol.
I fod yn gynaliadwy yn economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol rydym:
- Yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac wedi cofrestru fel Cyflogwr Cyflog Byw. Mae hyn yn sicrhau bod ein pobl yn ennill cyflog da o fewn ein cymuned
- Yn fusnes gyda chenhadaeth gymdeithasol glir fel y diffinnir yn ein dogfennau llywodraethu
- Wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2025
- Yn dryloyw am sut ydym yn gweithredu a’r effaith a gawn
EIN TENANTIAID
Mae 12 BBaCh (Busnesau Bach a Chanolig) lleol wedi’u lleoli yn y Caban. Mae’r busnesau hyn yn cynrychioli cymysgedd wych o artistiaid, rhaglenni, ffotograffwyr, elusennau amgylcheddol, peirianwyr sain ac osteopathiaid. Dewiswch ‘da chi o’r gymysgedd werth chweil. O’r cychwyn cyntaf mae’r unedau busnes wedi bod yn boblogaidd iawn. Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi uned cysylltwch â ni.