Calon curiadol ein Cymuned
Yn dathlu ein 20fed flwyddyn, mae Caban CIC yn sefydliad angor cymunedol. Lle i bobl leol deimlo’n falch o gyfarfod, creu, cydweithio, gweithio, ymlacio a lleoliad i ymwelwyr ei fwynhau.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru yn darparu fframwaith delfrydol ar gyfer Caban, a’r hyn a wnawn. Mae ein pwrpas, ein dyluniad, ein gweithrediadau a’n gweithgareddau’n sgorio’n uchel yn erbyn pob un o’r saith nod, ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynyddu’r effeithiau da sydd gennym arnynt. Isod mae cyfrif mwy manwl o’r gweithgareddau hynny a’r cynlluniau sydd gennym i adeiladu ar eu heffeithiau da yn y dyfodol.
Cymru o Gymunedau Cydlynol
Rydym yn lle saith diwrnod yng nghanol y gymuned, yn creu mannau croesawgar i bobl – is-restr o’r mathau o gyfarfodydd i gwrdd, cyfrannu, creu, cefnogi. Gan chwarae rhan allweddol mewn democratiaeth leol rydym yn gweithredu fel yr Orsaf Bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol a chenedlaethol.
