caffi trwyddedig • cynadleddau • busnesau creadigol
Llanberis, cafe, conferences, snowdonia
Gwasanaethau

Ystafell Gyfarfod a Chynadledda

Gellir llogi ystafell benodedig ar gyfer cyfarfod/ cynadledda o fewn yr adeilad ei hunan. Mae’r ystafell yn addas ar gyfer hyd at bymtheg o bobl ar ffurf ystafell fwrdd, neu hyd at bump ar hugain o bobl ar ffurf theatr.

Ceir defnydd o ystod lawn o offer technegol, gan gynnwys taflunyddion LCD, cyfrifiaduron nodiadur, argraffyddion, chwaraewr fideo /DVD, byrddau gwyn, ynghyd ag offer cyfieithu.

Lleolir yr ystafell gyfarfod/ gynadledda ar y trydydd llawr a gellir defnyddio lifft i gyrraedd yno Mae gan yr ystafell gylch wifren.

Mae te, coffi a phrydau bwyd ar gael i gynadleddwyr.

Nod Caban Cyf yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a chyfeillgar, er mwyn sicrhau y bydd eich cyfarfodydd yn mynd yn rhwydd ac yn rhai llwyddiannus a chynhyrchiol.. Ceisiwn ein gorau i ddiwallu unrhyw anghenion arbennig neu ofynion fydd gennych.

Gellir hefyd ddarparu hwyluswr os bydd angen.

Y tâl am yr ystafell yw :-
£55 am hanner diwrnod
£85 am ddiwrnod llawn

Mae TAW yn ychwanegol i’r prisiau uchod

Cyflenwir te, coffi a bisgedi yn ôl yr angen am £1.50 y pen. (Coffi marchnad deg o ansawdd uchel a gyflenwir gennym)

Gellir addasu prydau yn ôl eich chwaeth bersonol a cheir rhestr brisiau fanwl ar gyfer hyn.

LLOGI OFFER
Amlinella’r rhestr ganlynol ein prisiau ar gyfer llogi offer clyweled ar gyfer cyfnodau gwahanol. Fe ddefnyddiwn y modd rhataf o asesu costau llogi ar eich cyfer. Er enghraifft, i logi offer am bedwar diwrnod mae’n rhatach llogi offer am wythnos gyfan na llogi fesul diwrnod.

Pan fyddwch yn llogi offer gofynnwn i chi arwyddo ffurflen yn eich gwneud yn gyfrifol am yr offer. Byddwch felly’n gyfrifol am ddigolledu Caban am golli neu am ddifrod i offer sydd yn eich gofal.

Yn gynwysedig yn y pris ceir hyfforddiant elfennol yn y defnydd / gofal o’r offer a’r gwifrau neu geblau priodol (er enghraifft cebl taflunydd neu liniadur)