Caffi
Ar Agor
9am - 4pm (Archeb diwethaf) 7 diwrnod o'r wythnos
Rydym yn gobeithio fod Caban yn le gall ein cwsmeriaid ymlacio'n llwyr, mwynhau bwyta ac yfed cynnyrch o'r safon uchaf a derbyn safon uchel o wasanaeth. Er mwyn cyflawni'r nod yma rydym yn croesawu eich sylwadau.
Cwmni cydweithredol cyfyngedig dan warant yw Caban Cyf. Caban sy'n rheoli'r adeilad a'r safle er mwyn darparu, ymysg pethau eraill, unedau fforddiadwy ar gyfer mentrau creadigol lleol, i ddarparu gwasanaethau cynhaliol i'r gymuned busnes leol, a darparu gwasanaethau am ddim i'n hysgolion lleol. Caiff unrhyw elw a wneir gan y caffi ei ddefnyddio er mwyn gweithredu'r amcanion hyn.
Mae yna groeso i chwi ymuno â’n rhestr e bost am wybodaeth reolaidd am yr hyn sydd yn mynd ymlaen yma LINK TO sign up for our newsletter
