CROESO – WELCOME

Caffi Caban – Gofod creadigol yng nghanol y gymuned

Caban Café – A creative space at the heart of the community

Mae Caffi Caban yn cynnig bwydlen gwych ac amrywiol 7 diwrnod yr wythnos 

Ein bwriad yn Caban yw creu hwb deinamig yng nghalon ein cymuned, gan weithio gyda phartneriaid i wella ansawdd bywyd i bawb. Rydym yn rhoi pwyslais gwirioneddol ar weithio gyda chyflenwyr lleol, dibynadwy. Rydym yn dewis coffi sydd wedi’i rostio’n lleol o ffynonellau moesegol, ac rydym yn falch o weithio gyda’n cigydd teulu traddodiadol lleol yng Nghaernarfon. Rydym yn ffodus iawn o fod â gardd gegin sy’n cyfrannu ffrwythau, perlysiau, tomatos, garlleg a llysiau gwyrdd. Gallwn creu bwyd lliwgar a thymhorol gyda blas gwirioneddol leol.

Caiff brechdanau brecwast eu gweini rhwng 9yb- 11:30yb
Cinio oddi ar y bwrdd du o 12-3:30yh
Gweinir coffi, te a chacen, diodydd oer  drwy’r dydd tan 4yh

CYRRAEDD
Dilynwch y system un ffordd at fynediad newydd y caffi os gwelwch yn dda. Nid ydym yn derbyn archebion. Dyrannir byrddau ar sail y cyntaf i’r felin. 

GWASANAETH BWRDD
Fel safle trwyddedig rydym yn gweithredu gwasanaeth bwrdd o un pen i’r llall a byddwn yn cymryd eich archeb, yn gweini bwyd a diod ac yn cymryd taliadau cerdyn wrth y bwrdd. Peidiwch â bod yn swil ynghylch dal ein sylw os oes angen unrhyw beth arnoch. 

CYNIGION ARBENNIG DYDDIOL
Yn enwog am ein bwrdd du cynigion arbennig dyddiol rydym yn gwneud yn fawr o hyn ac yn nodi prydau ffres, lleol a blasus bob dydd. Bydd ein Rhith-fwrdd Du dyddiol ar-lein o 10.00yb bob dydd.

ANGHENION DIETEGOL 
Mae ein bwydlen, sydd wedi’i hailwampio, yn darparu ar gyfer ystod o anghenion dietegol. Mae gennym bryd pasta syml ar gyfer plant bach. Ni fyddwn yn gallu cynnig prydau ar wahân i’r rhai sydd ar y fwydle

NID YW CABAN YN DERBYN ARIAN PAROD
Er mwyn lleihau nifer y pwyntiau cyffwrdd yn ystod y pandemig COVID-19, nid ydym yn derbyn arian parod erbyn hyn. Cymerir taliadau wrth y bwrdd gyda cherdyn neu daliad digyswllt yn unig. 

 

CŴN
Er nad ydym yn caniatáu cŵn y tu mewn i’r caffi, mae croeso mawr i cŵn sy’n ymddwyn yn dda aros wrth ein byrddau hutiau tu allan – ble mae poleni dŵr iddynt hefyd.

Mae Caffi Caban yn cynnig bwydlen gwych ac amrywiol 7 diwrnod yr wythnos. Mae ein cogydd yn creu nwyddau dyddiol bywiog yn seiliedig ar gynnyrch tymhorol, gan gyfuno’r gorau gan ein cyflenwyr lleol dibynadwy a’n gardd gegin ar y safle. Mae’r ymroddiad hwn i fwyd iach, wedi’i baratoi’n ffres, wedi arwain at enw da rhagorol ymhlith pobl lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Caiff brechdanau brecwast eu gweini rhwng 9yb- 11:30yb
Cinio oddi ar y bwrdd du o 12-3:30yh
Gweinir coffi, te a chacen, diodydd oer  drwy’r dydd tan 4yh

Beth mae Pobl yn ei Ddweud...

“We popped in for lunch and had a really excellent meal. Everything freshly cooked, generous portions and everything we ordered was delicious. Plenty of choice for the vegans among us too. Excellent cakes with coffee as dessert. Service was with a smile and extremely helpful, nothing was too much trouble. Can highly recommend!”

Date of visit: July 2021

COFFI

Rydym yn ymfalchïo yn ein coffi. Dim ond ffa coffi wedi’u rhostio’n lleol yr ydym yn eu malu ac rydym yn echdynnu espresso yn ofalus ar gyfer ein hystod wych o goffïau. Mae Poblado Coffi yn cyflenwi ein espresso blend cartref, ond rydym yn hoff o gymysgu pethau gyda choffïau gwadd gan rostwyr fel Heartland Coffi o Landudno a’u tebyg. Wedi’i falu’n ffres bob amser ar gyfer y blas gorau posib.

ARDAL GELF

Mae gennym arddangosfa barhaus yn dathlu creadigrwydd ac amrywiaeth artistiaid lleol. Rydym yn darparu ardal lle gallant arddangos a gwerthu eu gwaith mewn lleoliad anffurfiol, boed yn serameg, ffotograffiaeth, brodwaith neu baentiad.

SIOP

Mae gennym bob amser ddewis da o de dail rhydd & ac ystod eang o ddiodydd ysgafn o’r bar. Mae ein siop gaffi fechan bob amser yn cynnig rhywbeth diddorol i’w brynu, p’un a yw’n sudd afal o Ardd Caban, jar o fêl gan ein gwenyn ein hunain, byrbrydau a diodydd gwahanol, neu goffi ffres wedi’i rostio’n lleol i chi ei fwynhau gartref.

TAPAS AR DDYDD MAWRTH - YN ÔL YN FUAN!

Bob dydd Mawrth cynhelir #TapasArDdyddMawrth yma yn y Caban. Ymunwch â ni am gymysgedd eclectig o blatiau bach wedi’u gwneud yn ffres, yn dathlu danteithion blasus a chynnyrch tymhorol. Gollyngfa greadigol wirioneddol i dîm y gegin – nifer cyfyngedig!.

GARDD GEGIN CABAN

Y RHANDIROEDD

Mae gennym gymuned randir, fechan ond fywiog yn y Caban, lle mae deiliaid rhandir yn gweithio’n galed i gynhyrchu ystod o ffrwythau, llysiau a blodau. Maent hefyd yn mwynhau buddion corfforol a meddyliol gweithio ar randir ac yn cael mynd â’r bwyd blasus, ffres adref gyda nhw.

EIN COED AFALAU

Yn ogystal â’r berllan bwrpasol, mae gennym nifer o goed afalau wedi’u gwasgaru ar hyd y safle. Mae eu blodau godidog bob gwanwyn yn dynfa i’r gwenyn, gwenyn hapus, coed afalau hapus! Bob hydref rydym yn cynaeafu’r afalau, yn gwasgu a photelu’r sudd ar gyfer ein Sudd Afal Gardd Caban ein hunain. Gweinir mewn gwydr yn y caffi ac ar gael i’w brynu yn y siop.

MÊL CABAN

Yn swatio yn y berllan mae ein gwenynfa fechan, sydd diolch i’n gwenynwyr gwirfoddol, â haid weithgar o wenyn mêl, yn cynhyrchu ein Mêl Gardd Caban ein hunain. Cadwch lygad am ein jariau o fêl yn y siop o ddiwedd yr haf ymlaen.

Y TWNNEL POLYTHEN

Dan ofal ein gwirfoddolwyr gardd gegin, mae’r twnnel polythen yn darparu ardal dyfu gydol y flwyddyn ac yn feithrinfa bwysig ar gyfer magu’r ardd gegin bob gwanwyn. P’un a yw’n berlysiau, tomatos, garlleg neu lysiau gwyrdd rydym yn ceisio defnyddio cynnyrch o’r ardd gegin gydol y flwyddyn.

Ystafell Gynadledda

Mae gennym ystafell gyfarfod / gynadledda bwrpasol ar gael i’w llogi yn y Caban. Mae’r ystafell ar gael i’w defnyddio am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn ac yn addas ar gyfer 12 o bobl ar ffurf ystafell fwrdd, neu ugain ar ffurf theatr.

Rydym bob amser yn anelu at ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon i alluogi eich cyfarfodydd i redeg yn esmwyth a chynhyrchiol. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion neu geisiadau arbennig a all fod gennych. Gall caffi poblogaidd Caban ddarparu ar gyfer eich gofynion gyda bwydlenni bwffe ar gael i’w bwyta yn yr ystafell gynadledda neu gallwch gadw bwrdd yn y caffi.

Gallwn ddarparu te, coffi a diodydd oer bob amser

Cysylltwch â ni ar 01286 685500 neu e-bostiwch foh@caban-cyf.com gyda’ch gofynion a byddwn yn hapus i roi dyfynbris i chi.